Y Comisiynwyr
Mae Comisiwn Aber Afon Hafren yn cynnwys Cadeirydd, a’r Comisiynwyr cychwynnol canlynol. Gellir penodi Comisiynwyr Ychwanegol os oes angen eu harbenigedd.
Dr Andrew Garrad CBE
Cadeirydd
Mae Andrew yn beiriannydd ac yn ddyn busnes ac yn un o arloeswyr y diwydiant ynni gwynt modern. Pleidleisir yn rheolaidd drosto fel un o’r bobl fwyaf dylanwadol yn y diwydiant ynni. Ym 1984, cyd-sefydlodd y cwmni ymgynghori Garrad Hassan (GH) a dyfodd i fod yr ymgynghoriaeth ynni adnewyddadwy annibynnol fwyaf yn y byd, gan gyflogi 1,000 o bobl mewn 29 o wledydd pan ymddeolodd yn 2015.
Cyn hynny bu’n Llywydd Cymdeithas Ynni Gwynt Ewrop, Cadeirydd Cymdeithas Ynni Gwynt Prydain, Renewables UK bellach, a rhoddwyd CBE iddo yn 2017 am ei wasanaethau i ynni adnewyddadwy. Bu Andrew hefyd yn cadeirio blwyddyn Bryste fel Prifddinas Werdd Ewrop yn 2015.
Sue Barr
Comisiynydd
Mae gan Sue Barr ddegawdau o brofiad yn y diwydiannau ynni a pheirianneg ar y môr, ac ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Ynni Morol yn y Simply Blue Group. Sue sy’n cadeirio Cyngor Ynni Morol y DU, mae’n Is-gadeirydd y Ganolfan Danddwr Fyd-eang, yn aelod o Fwrdd Ynni Morol Cymru, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Marine Power Systems a Fforwm Arfordirol Sir Benfro.
Yn flaenorol, bu Sue yn Aelod o Fwrdd Verdant Power Inc, Scottish Renewables a Renewables UK a gwasanaethodd am 10 mlynedd ar Gyngor Cymdeithas y Diwydiant Ynni Adnewyddadwy Morol, Iwerddon.
Peter Davies CBE
Comisiynydd
Mae cefndir Peter yn cynnwys rolau fel Rheolwr Gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned, Is-gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’r DU, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru, cyd-sylfaenydd Maint Cymru, Cadeirydd Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Mae ei rolau presennol yn cynnwys cadeirio grŵp Her Annibynnol Dŵr Cymru, Ynni Cymunedol Sir Benfro, Y Sefydliad dros Ddemocratiaeth a Datblygu Cynaliadwy, aelodaeth o Bwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a cheidwad cymunedol River Simple.
Dr Madeleine Havard
Comisiynydd
Mae Madeleine Havard yn wyddonydd amgylcheddol a weithiodd yn y sector amgylcheddol gwirfoddol a statudol ac fel academydd, gan ddarlithio mewn astudiaethau amgylcheddol gyda diddordebau ymchwil mewn cadwraeth a rheoli morol ac arfordirol. Mae hi wedi cael ei phenodi i nifer o Fyrddau cenedlaethol a Phwyllgorau Cynghori, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Parth Cadwraeth Forol Sgomer.
Chris Mills
Comisiynydd
Mae Chris Mills yn wyddonydd o ran hyfforddiant a dechreuodd ei yrfa ym 1978 fel Biolegydd Eog yn y Salmon Research Trust yn Iwerddon. Ym 1989, ymunodd â’r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol a oedd newydd ei ffurfio a thros y 23 mlynedd nesaf bu’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau pysgodfeydd, rheoli cyffredinol, polisi ac arweinyddiaeth gan ddod yn Gyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (2006-2013). Yn ystod y cyfnod hwn, Chris oedd yn gyfrifol yn gyffredinol am holl weithgareddau’r Asiantaeth yng Nghymru, gan gynnwys arwain ar gyfer yr Asiantaeth yng Nghymru a Lloegr ar gynnig Morglawdd Hafren.
Bellach wedi ymddeol, mae ar hyn o bryd yn Llywydd ac yn Gadeirydd y Sefydliad Rheoli Pysgodfeydd a Chadeirydd Afonydd Cymru (AC), Cadeirydd Panel Cynghori Amgylcheddol Annibynnol Dŵr Cymru ac yn cynrychioli AC ar nifer o bwyllgorau Cyswllt Amgylcheddol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dr Nigel Costley
Comisiynydd
Nigel Costley oedd Ysgrifennydd Rhanbarthol Cyngres Undebol Masnach De Orllewin Lloegr am 24 mlynedd. Yn gyn-brentis fel cysodwr, ailhyfforddodd Nigel sawl gwaith er mwyn addasu i’r byd digidol. Cafodd ei ethol yn swyddog undeb ar gyfer y GMPU, ac roedd yn rhan o’r newidiadau enfawr yn y diwydiannau argraffu a dylunio.
Mae Nigel yn Aelod o Fwrdd Cyngor Hyfforddiant a Menter Henffordd a Chaerwrangon, un o’r undebwyr llafur cyntaf i gael rôl o’r fath. Arweiniodd ffurfio’r Grŵp Cyflogaeth a Hyfforddiant Graffigol hynod lwyddiannus, a redir gan ac ar gyfer gweithwyr argraffu a graffigol
di-waith.