Comisiwn annibynnol i archwilio’r potensial ar gyfer ynni cynaliadwy o Aber Afon Hafren
Mae wedi bod yn hysbys ers peth amser fod gan Aber Afon Hafren botensial enfawr ar gyfer creu ynni adnewyddadwy glân. Gydag un o’r ystodau llanw uchaf yn y byd, amcangyfrifwyd bod ganddo’r potensial i greu hyd at 7 y cant o gyfanswm anghenion trydan y DU.
Gyda’r DU yn dod yr economi fawr gyntaf yn y byd i osod ymrwymiadau cyfreithiol rwymol i gyrraedd sero net, mae arweinwyr lleol, busnesau a llywodraethau wedi datgan awydd i gael golwg arall ar y dystiolaeth i weld a oes ateb hyfyw i harneisio’r ynni hwn wrth amddiffyn amgylchedd ac asedau ein hardal.
Yn cynnwys grŵp amrywiol o arbenigwyr o gefndiroedd gwyddonol, peirianneg, amgylcheddol, bydd gan y Comisiwn hwn yr arbenigedd a’r annibyniaeth sydd ei angen arno i archwilio a yw defnyddio Aber Afon Hafren i greu pŵer cynaliadwy yn gyraeddadwy ac yn hyfyw.
Ynglŷn â’r Comisiwn
Bydd gan y Comisiwn gylch gwaith agored i archwilio ystod o opsiynau, gan gynnwys edrych ar ba dechnoleg ynni sy’n bodoli, opsiynau cyllido ac ariannu, sut y gellir diogelu’r amgylchedd, ffactorau cymdeithasol ac economaidd, a llawer o bynciau eraill.
Amcanion y Comisiwn yw:
Penderfynu
Penderfynu ar y potensial ar gyfer ynni cynaliadwy yn Aber Afon Hafren yng nghyd-destun system ynni Porth y Gorllewin a’r cyfraniad y gall ei wneud i economi sero net;
Ystyriaethau
Deall ystyriaethau allweddol Aber Afon Hafren o ran ei amgylchedd unigryw a’i bwysigrwydd i ardal Porth y Gorllewin; a
Adnabod
Nodi’r heriau a’r cyfleoedd allweddol o ddatblygu ynni cynaliadwy yn Aber Afon Hafren
I gyflawni ei amcanion, bydd y Comisiwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol; gan gomisiynu ymchwil a dadansoddiadau; a bydd yn chwilio am fewnbwn arbenigol, i benderfynu ar argymhelliad terfynol. Wrth gyflawni hyn, bydd y Comisiwn yn cael ei gefnogi gan Ysgrifenyddiaeth a nifer o arbenigwyr.