7 Mawrth, 2024
Mae arbenigwyr o bob rhan o’r DU yn cyfarfod am y tro cyntaf yng Nghaerdydd fel rhan o Gomisiwn Aber Afon Hafren i ail-edrych ar y potensial ar gyfer cynllun ynni llanw blaenllaw yn yr ardal.
Ochr yn ochr â hyn, mae’r comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad newydd gan yr ymgynghorwyr CGC yn esbonio pam mae achos bellach i ail-archwilio potensial yr aber i gyflenwi ynni cynaliadwy.
Mae gan yr aber yr amrediad llanw uchaf yn Ewrop a’r trydydd uchaf yn y byd. O ystyried ei adnodd llanw sylweddol, mae’r potensial i ddefnyddio pŵer llanw yn yr aber wedi bod yn destun trafodaeth ers degawdau, gyda rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gall ddarparu hyd at 7% o anghenion trydan y DU.
Gyda llawer o gynigion ynni llanw aflwyddiannus dros yr 20 mlynedd diwethaf yn yr aber a’r aber yn gartref i nifer o gynefinoedd bywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwladol, mae’r adroddiad yn cydnabod bod heriau sylweddol o hyd. Fodd bynnag, mae hefyd yn amlygu dyfodiad llwybrau newydd i ariannu rhaglenni seilwaith mawr a phwysau cynyddol i ddod o hyd i fathau newydd o ynni cynaliadwy a dibynadwy fel rhesymau i archwilio’r mater eto.
Cynhaliwyd y cyfarfod yn y Senedd gan ddod â Chomisiynwyr Aber Afon Hafren, swyddogion Llywodraeth Cymru a’r DU ynghyd, ac arweinwyr lleol.
Dywedodd Gweinidog y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James AS: “Rydym yn croesawu’n fawr sefydlu Comisiwn Aber Afon Hafren Porth y Gorllewin a’r ymrwymiad i archwilio potensial ynni aruthrol y tirnod pwysig hwn. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan ein huchelgais i Gymru ddod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau llanw newydd.
“Trwy ddod ag arbenigwyr cenedlaethol o bob rhan o Gymru a Lloegr ynghyd i archwilio’r mater hwn rwy’n hyderus y bydd y comisiwn yn gallu ystyried anghenion ein hecosystemau hanfodol, yr amgylchedd a defnyddwyr eraill y môr ochr yn ochr â’r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy. Her Morlyn Llanw, edrychaf ymlaen at allu cydweithio i ddatblygu sylfaen wybodaeth y sector a deall y cyfleoedd a gyflwynir gan ddyfroedd Cymru.”
Lansiwyd Comisiwn Aber Afon Hafren gan Porth y Gorllewin, y Bartneriaeth Draws-Ranbarthol ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr, sy’n dwyn ynghyd fusnesau, awdurdodau lleol, prifysgolion a llywodraethau o ddwy ochr Afon Hafren.
Mae’r comisiwn yn cynnwys grŵp amrywiol o bobl o gefndiroedd gwyddonol, peirianneg, amgylcheddol, ariannol a rhanddeiliaid a bydd eu canfyddiadau yn llywio siapio polisïau, cydweithio a chyfleoedd.
Meddai Dr Andrew Garrad CBE, Cadeirydd Comisiwn Aber Afon Hafren a derbynnydd diweddar gwobr Beirianneg y Frenhines Elizabeth: “Mae Comisiwn Aber Afon Hafren yn foment ganolog yn yr ymgyrch ar y cyd i geisio atebion ynni cynaliadwy yn yr ardal.
“Mae llawer i’w ystyried o hyd ac mae tystiolaeth i’w hadolygu er mwyn penderfynu a oes opsiwn ymarferol bellach i harneisio pŵer anhygoel Aber Afon Hafren. Yn dilyn ymdrechion sylweddol yn y gorffennol, ein cenhadaeth yw llywio’r cymhlethdodau, cydbwyso pryderon amgylcheddol, a datgloi cyfleoedd cynaliadwy a fydd yn diffinio dyfodol ynni yn Aber Afon Hafren.”
Rhannodd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd ac Aelod o Fwrdd Porth y Gorllewin, ei safbwynt: “Mae’r gwaith hwn eisoes wedi cael cefnogaeth gan Lywodraethau Cymru a’r DU gyda’r ddwy yn cydnabod mai dyma’r amser iawn i ailedrych ar ynni llanw Afon Hafren. Ar ôl llawer o waith y tu ôl i’r llenni, rwy’n falch o weld y gwaith hwn yn dechrau. Mae Caerdydd yn falch o gynnal y digwyddiad lansio hwn, ac edrychwn ymlaen at yr effaith gadarnhaol y bydd gwaith y comisiwn yn ei chael ar y rhanbarth.”